Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ycwhanegol | 12 Medi 2016

External Relations and Additional Legislation Committee | 12 September 2016

Briff ymchwil

1.       Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i’r Cynulliad o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n ymdrin â’r cyfnod rhwng 11 Awst a 6 Medi.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

2.1        Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol – sef y prif Bwyllgor â chyfrifoldeb dros gydlynu gwaith craffu’r Cynulliad ar y broses ynghylch gadael yr UE - wedi lansio ymchwiliad newydd, sef Gadael yr UE: y goblygiadau i Gymru. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus, a fydd yn gwahodd rhanddeiliaid i rannu eu barn, yn cael ei gyhoeddi cyn hir. Gellir gwylio pob un o sesiynau cyhoeddus y Pwyllgor ar Senedd.tv, a chyhoeddir trawsgrifiadau ohonynt ar wefany Pwyllgor. Hefyd, mae’n fwriad gan ein tîm Cyfathrebu sefydlu ‘llechen’ ar-lein gyda’r nod o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am y datblygiadau allweddol sy’n deillio o’r gwaith hwn.

Bydd y sesiwn dystiolaeth ffurfiol gyntaf ar 12 Medi gyda Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn y trafodaethau, y camau y mae’n eu cymryd i ailstrwythuro ei hadrannau er mwyn cymryd rhan yn y broses ar gyfer gadael yr UE, sut mae’n rhyngweithio â rhanddeiliaid Cymru i lywio ei blaenoriaethau a safbwynt negodi, a’i pherthynas â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill wrth baratoi’r broses i adael yr UE (ynghyd ag unrhyw gwestiynau cyfansoddiadol dilynol).

Yn ystod yr wythnosau i ddod, mae cyfres o seminarau arbenigol yn cael ei threfnu - rhai cyhoeddus bydd y rhain - gydag academyddion ac arbenigwyr eraill yn canolbwyntio ar themâu a meysydd allweddol a fydd o ddiddordeb i Gymru yn y trafodaethau. Bydd y Pwyllgor hefyd yn ymweld â Brwsel (26 Medi) ar gyfer cyfarfodydd ag ASEau a swyddogion allweddol o wahanol sefydliadau. Mae’r amserlen ddangosol ar gyfer y gwaith hwn fel a ganlyn tan ddechrau mis Tachwedd:

19 Medi: Cyfraith a masnach ryngwladol

26 Medi: ymweliad â Brwsel

3 Hydref: Ariannu a chyllid yr UE, gan gynnwys ffocws ar Ymchwil a Symudedd

10 Hydref: Amaethyddiaeth a physgodfeydd

17 Hydref: Yr amgylchedd a’r môr

31 Hydref: Gwasanaethau cyhoeddus

7 Tachwedd: Cysylltiadau o fewn y DU. Sesiwn graffu ar waith y Prif Weinidog

Mae rhagor o sesiynau yn cael eu trefnu ar gyfer mis Tachwedd/Rhagfyr, yn cynnwys sesiwn gydag ASEau Cymru, a chaiff y rhain eu llywio gan ymatebion rhanddeiliaid i’r ymgynghoriad. Mae’r Pwyllgor hefyd yn bwriadu ymgymryd ag ymweliadau â Llundain, Iwerddon ac, o bosibl, rhannau eraill o’r DU/UE er mwyn lywio ei waith.

Yn y ystod y cyfnod hwn, bydd y Cadeirydd hefyd yn cynnal cyfarfod chwe-misol Fforwm y CE - y DU (y dyddiad i’w gadarnhau, ond tua diwedd mis Hydref mwy na thebyg) sy’n dwyn ynghyd Cadeiryddion y Pwyllgorau sy’n gyfrifol am faterion yr UE yn Nhŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar farterion ynghylch Gadael yr UE.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi lansio ymchwiliad newydd yng nghyd-destun y bleidlais i adael yr UE, sef ei Ymchwiliad i Ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru. Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus i randdeiliaid gyflwyno eu barn a’u syniadau.

Mae sawl un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn trafod ymchwiliadau posibl i faterion Gadael yr UE ac, wrth i’r rhain ddod yn fwy cadarn, byddwn yn cynnwys manylion yn y papur hwn ar y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â Gadael yr UE.

Yn olaf, mae swyddogion o’r Cynulliad yn gweithio yn agos gyda swyddogion yn Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Cynulliad Llundain, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi i sicrhau bod gwybodaeth yn llifo’n dda rhwng y cyrff hyn ynghylch eu gwaith ar Brexit a bod pob un yn deall blaenoriaethau a buddiannau’r gwahanol rannau o’r DU.

2.2        Llywodraeth Cymru

Ar 13 Awst, cyhoeddodd y Prif Weinidog Ddatganiad ar gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar gronfeydd yr UE: “Er bod y cyhoeddiad heddiw’n gam i’r cyfeiriad iawn ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i fusnesau, sefydliadau a chymunedau sy’n derbyn cyllid yr UE, nid yw’n ddigon”.

Ymwelodd y Prif Weinidog â’r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf ar gyfer rhaglen bum niwrnod, o dan y slogan ‘Mae Cymru ar agor i fusnes’, fel rhan o waith Llywodraeth Cymru i ddenu mewnfuddsoddiad i Gymru.

Bydd Is-bwyllgor newydd y Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cwrdd am y tro cyntaf ar 12 Medi. Dyma’r aelodaeth, yn ôl a ddeëllir:

§    Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog

§    Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

§    Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

§    Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

§    Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

§    Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

 

2.3        Rhanddeiliaid o Gymru

Mae rhanddeiliaid o Gymru wedi bod yn weithgar mewn sawl ffordd dros yr ychydig wythnosau diwethaf ynglŷn â Gadael y UE.

Roedd y Cynghorydd Phil Bale, arweinydd Caerdydd a llefarydd CLlLC ar Ewrop, a’r Cynghorydd Ronnie Hughes, Dirprwy Arweinydd Conwy a chynrychiolydd Pwyllgor y Rhanbarthau, ym Mrwsel ar 5 a 6 Medi ar gyfer cyfres o gyfarfodydd sy’n gysylltiedig gadael yr UE.

Trefnodd NFU Cymru nifer o sioeau teithiol ynghylch gadael yr UE yng Nghymru, ac ar 25 Awst cyfarfu cadeiryddion da byw ei bedwar undeb yn y DU i drafod gadael yr UE. Lansiodd Undeb Amaethwyr Cymru holiadur Brexit ar-lein ar 23 Awst a chynhaliodd drafodaeth banel yn Sioe Dinbych a Fflint ar ffermio yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE ar 22 Awst.

Mae sector addysg uwch Cymru yn gwneud gwaith, a gydlynir gan ei Swyddfa ym Mrwsel (AUCB) ac ar y cyd â Phrifysgolion y DU, i nodi blaenoriaethau a phryderon y sector addysg uwch, gan ganolbwyntio ar bryderon uniongyrchol (yr effaith ar staffio ac ar recriwtio myfyrwyr), ffioedd (y gwarantau ar gyfer myfyrwyr o’r UE sy’n dod i mewn yn 2016/2017 ond nid ar ôl hynny), cyllid yr UE, gan gynnwys Cronfeydd Strwythurol (a’r ymateb i’r ‘sicrwydd’ gafwyd gan y Canghellor), Horizon 2020, Erasmus+ a symudedd. Mae Bwrdd AUCB, dan gadeiryddiaeth Richard Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, i fod i gyfarfod ar 21 Medi, gyda materion gadael yr UE yn rhan amlwg o’r agenda.

 

3.       Datblygiadau ar lefel yr UE

3.1        Y Cyngor Ewropeaidd / Cyngor y Gweinidogion

Mewn datganiad i’r wasg cyn cyfarfod anffurfiol Cyngor Ewropeaidd yr UE27 (heb y DU) ar 16 Medi ym Mratislafa, ailadroddodd Mr Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, “na chynhelir dim trafodaethau heb hysbysiad”.

3.2        Y Comisiwn Ewropeaidd

Mewn datganiad i’r wasg cyn cyfarfod y G20 yn Tsieina, dywedodd Jean-Claude Juncker, Llywydd y Comisiwn, “nid Brexit fydd prif bwnc na phrif fater ein cyfarfod ym Mratislafa” (ar 16 Medi).

Mae’r broses o sefydlu tîm i gefnogi Michel Barnier, a fydd yn bennaeth ar Dasglu’r Comisiwn Ewropeaidd o fis Hydref yn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn mynd rhagddi. Deallwn y bydd gan Barnier dîm o tua 30-40 o swyddogion allweddol i gydlynu’r gwaith hwn. Deallwn hefyd fod disgwyliad cyffredinol y bydd gan y Comisiwn rôl arweiniol ym mhroses y trafodaethau, gan weithio’n agos gyda Thasglu’r Cyngor ar gyfer y DU, a arweinir gan Didier Seeuws.

3.3        Senedd Ewrop

Bydd y Pwyllgor Hawliau Sifil yn cynnal gwrandawiad cyhoeddus ar 12 Medi gyda Syr Julian King, ymgeisydd y DU ar gyfer rôl y Comisiynydd dros yr Undeb Diogelwch. Bydd pleidlais yn y Senedd lawn ddydd Iau.

3.4        Arall: yr UE yn y cyfryngau

Ar 2 Medi cyhoeddodd Gweinyddiaeth Dramor Japan ddogfen 15 tudalen yn nodi’r hyn y mae hithau a busnesau Japan am ei gael yn sgil Brexit. Mae’r ddogfen yn rhybuddio y bydd cwmnïau o Japan yn gadael y DU. Mae’r tua 50 o gwmnïau o Japan yng Nghymru yn cyflogi dros 6,000 o bobl.

Cafwyd nifer o sylwadau yn y cyfryngau gan Benaethiaid Gwladol a chan uwch wleidyddion a swyddogion eraill yn yr wythnosau diwethaf. Er enghraifft:

§  Dywedodd Sigmar Gabriel, Gweinidog Economi’r Almaen, fod rhaid peidio â gadael i Brydain “gadw’r pethau neis” sy’n dod gydag aelodaeth o’r UE os nad yw’n cymryd cyfrifoldeb am effeithiau Brexit (adroddiad yn The Guardian, 29 Awst).

§  Mewn cyfweliad radio yn yr Iseldiroedd ar 2 Medi, dywedodd Llywydd Llys Cyfiawnder yr UE fod “Brexit eto yn bell o fod yn anorfod“.

§  Mewn cyfweliad â’r BBC, dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Rwsia fod Brexit wedi gwanhau Ewrop (Cyfweliad ar y BBC, 2 Medi)

4.       Datblygiadau ar lefel y DU

4.1        Llywodraeth y DU

Mae dadl ‘gyfnewidiol’ yn parhau â’r Cabinet wrth i Lywodraeth y DU symud tuag at lunio ei gweledigaeth ar gyfer Prydain ar ôl iddi adael yr UE, a hynny cyn y trafodaethau ymadael ffurfiol a fydd yn digwydd ar ôl i Erthygl 50 gael ei rhoi ar waith.

Cyfarfod y Cabinet ar 31 Awst

Cyfarfu’r Cabinet yn Chequers ar 31 Awst 2016 a Brexit oedd ar frig yr agenda. Ailadroddodd y Prif Weinidog ei datganiadau blaenorol, sef na chynhelir ail refferendwm ac ‘na cheisir aros yn yr UE drwy’r drws cefn’, ac mai ‘Brexit yw Brexit’. Hefyd, cadarnhaodd drachefn na roddir Erthygl 50 ar waith eleni. Wrth siarad ar ôl y cyfarfod dywedodd y Prif Weinidog fod y Cabinet yn gytûn ynghylch yr angen i daro bargen unigryw i Brydain (yn hytrach na dilyn model sy’n bodoli eisoes megis y modeli ar gyfer yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Chanada), ac y byddai’r fargen hon yn cynnwys rheoli mewnfudo a chanlyniad cadarnhaol ynghylch masnach.


 

 

Gwahaniaethau barn ar fewnfudo a’r Farchnad Sengl

Wrth siarad yn y G20 yn Tsieina ar 5 Medi, dywedodd Mrs May, y Prif Weinidog, na fyddai model mewnfudo sy’n seiliedig ar bwyntiau yn rhoi rheolaeth i’r llywodraeth dros bwy sy’n dod o leoedd eraill yn Ewrop. Dywedwyd hynny ar ôl i aelodau eraill o’i Chabinet, fel Boris Johnson, Liam Fox, Chris Grayling, a Priti Patel, wneud datganiadau yn ystod ymgyrch y refferendwm a galw ers hynny am ddull sy’n seiliedig ar bwyntiau.

Roedd gwahaniaeth barn cyhoeddus hefyd ynghylch y Farchnad Sengl, gyda’r Prif Weinidog yn datgan ar 6 Medi y byddai’r DU yn uchelgeisiol’ wrth drafod ei rhan yn y Farchnad Sengl yn y dyfodol. Dywedodd hynny ar ôl datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin (gyda chwestiynau’n dilyn) ar 5 Medi gan David Davis AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr UE, yn dweud ei bod yn ‘annhebygol’ y gallai’r DU aros yn y Farchnad Sengl ar ôl gadael yr UE.

Bydd cyfranogi o’r Farchnad Sengl, ynghyd â’r rhyddid i symud/rheoli mewnfudo, ymysg y pynciau canolog yn y trafodaethau. O’r herwydd, bydd llygad y cyhoedd ar y trafodaethau parhaus rhwng y Swistir a’r UE ar y mater hwn, gan fod trafodaethau’n ailddechrau ar 19 Medi i ddatrys y broblem a achoswyd gan refferendwm yn y Swistir yn 2014 lle y pleidleisiodd pobl y wlad honno i gyfyngu ar y rhyddid i symud. Cafwyd adroddiad yn The Guardian fod Senedd y Swistir yn cynnig cyfaddawd posibl - gyda chefnogaeth Gweinidogion y Swistir, yn ôl y sôn - sef y cyflwynid deddf yn caniatáu rhoi blaenoriaeth i bobl leol o ran eu cyflogi, yn hytrach na chyflwyno cyfyngiadau ar y rhyddid i symud i’r Swistir.

Bydd hyn yn ddiddorol - yn enwedig o gofio bod etholiadau’r flwyddyn nesaf yn Ffrainc (mis Ebrill) a’r Almaen (ddechrau’r hydref) ac mai mewnfudo fydd un o’r prif themâu yn y ddwy ymgyrch. Amserol yw’r ffaith i’r Undeb Democrataidd Cristnogol, sef plaid Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, golli tir yn etholiad rhanbarthol Meckelberg yr wythnos diwethaf (fe’i bwriwyd i’r trydydd safle wrth i’r blaid genedlaetholgar asgell dde Alternative für Deutschland gipio 21% o’r pleidleisiau gyda’i neges wrth-fewnfudo).

Datganiad David Davis i Dŷ’r Cyffredin

Yn ei ddatganiad i Dŷ’r Cyffredin, amlinellodd David Davies rai o’r prif egwyddorion y byddai Llywodraeth y DU yn eu parchu yn y trafodaethau i adael yr UE:

§  Creu consensws cenedlaethol ynghylch gadael yr UE drwy ymgynghori yn eang ledled y DU. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod ei adran ‘eisoes yn ymwneud yn llawn’ â Llywodraeth Cymru a’r llywodraethau datganoledig eraill, a dywedodd y byddai’n ymweld â Chymru (a’r Alban) ‘yn fuan’ wedi ymweliad yn ddiweddar â Gogledd Iwerddon.

§  Blaenoriaethu buddiannau cenedlaethol y DU yn y trafodaethau gan weithredu’n ddidwyll tuag at yr Aelod-wladwriaethau eraill (cyd-barch a chydweithredu yn y trafodaethau)

§  Lleihau ansicrwydd yn y trafodaethau lle bo modd

§  Tanlinellu’r ffaith bod sofraniaeth a goruchafiaeth y Senedd y tu hwnt i amheuaeth

Nododd yr Ysgrifennydd Gwladol mai’r Prif Weinidog a fydd yn arwain y trafodaethau i adael yr UE, gyda chymorth ei adran ef, sef yr Adran ar gyfer Gadael yr UE, ac adrannau eraill y llywodraeth. Nododd hefyd fod gan ei adran newydd 180 o staff yn Llundain, 120 o swyddogion ym Mrwsel, gyda recriwtio pellach yn yr arfaeth. Ni soniodd a oedd unrhyw staff ar secondiad yn ei adran newydd o Lywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill.

Lle bo union ystyr Brexit yn y cwestiwn, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod y mater yn glir: ‘Mae Prydain yn gadael yr UE’. Dywedodd y byddai gan y DU ateb ‘unigryw’, yn hytrach na model ‘parod’, ac yn greiddiol i hynny fyddai rheolaeth dros ‘ein ffiniau a’n cyfreithiau’ a rheolaeth dros arian trethdalwyr (sef dim cyfraniadau gorfodol i gyllideb yr UE). Hefyd, o ran gadael yr UE, fe’i disgrifiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn ‘gyfle enfawr a chyffrous’ i’r DU, ond tanlinellwyd na fyddai’r DU yn troi ei chefn ar Ewrop; yn hytrach, byddai’n ceisio perthynas ddeinamig, adeiladol ac iach ar gyfer y dyfodol.

Cyd-drafodaethau â Phenaethiaid Gwladol

Mae’r Prif Weinidog wedi parhau â’i phroses o gysylltu â Phenaethiaid Gwladol ar gyfer cyd-drafodaethau ynghylch gadael yr UE, gyda galwadau ffôn i Stefan Löfven, Prif Weinidog Sweden, ar 10 Awst a galwadau i Juha Sipilä, Prif Weinidog y Ffindir, ac Erna Solberg, Prif Weinidog Norwy, ar 31 Awst.

i oblygiadau posibl refferendwm y DU ar yr UE i sectorau bwyd-amaeth y gwledydd sy’n aelodau o BIPA, gyda’r bwriad o baratoi adroddiad yn gynnar yn 2017.

7.3        Tithe an Oireachtas (Senedd Iwerddon)

Ar 22 Medi, bydd yr Oireachtas (y Dáil a’r Seanad) yn cynnal Symposiwm oddi ar y safle, ar y pwnc: y goblygiadau economaidd o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Bydd Ei Ardderchowgrwydd Robin Barnett, Llysgennad Prydain i Iwerddon, a’i Ardderchowgrwydd Declan Kelleher, Cynrychiolydd Parhaol Iwerddon i’r UE, a nifer o siaradwyr eraill o fyd academia, byd busnes, a chyrff a grwpiau cynrychiadol yn cymryd rhan yn y Symposiwm.

8.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd:

Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin:

§    Brexit: implications for pensions (10 Awst)

Llyfrgell Tŷ’r Arglwyddi:

§    UK-Commonwealth Trade (10 Awst)

Adroddiadau eraill:

§    Immigration & Integration After Brexit (11 August, Policy Exchange)